• English
  • Neidio i'r cynnwys
Ysgol Bro Brynach
  • Cartref
  • Digwyddiadau
  • Dosbarthiadau
    • Blynyddoedd 5 a 6
      • Ein Gemau Scratch
    • Blynyddoedd 3 a 4
    • Cyfnod Sylfaen
  • Gwybodaeth
    • Clybiau
      • Clwb Brecwast
      • Clwb Coginio
      • Campau'r Ddraig
      • Clwb yr Urdd
      • Clwb Hwyl Bro Brynach
    • Eco-Sgolion
      • Ailgylchu Batris
      • Bag2school
      • Cyngor Eco
      • Ailgylchu
    • Ffrindiau'r Ysgol
      • Easyfundraising
    • Llau Pen
    • Cyngor Ysgol
    • Urdd
      • Gwersylloedd yr Urdd
    • Llysgenhadwyr Efydd
    • Llywodraethwyr
    • Grant Amddifadedd Disgyblion
    • Siarter Iaith
  • Staff
  • Rhieni
    • Ffurflenni Cais
    • Prydau Ysgol
    • Gwyliau Ysgol
    • Ysgolion Uwchradd
    • Dogfennau a Pholisïau
    • Gwisg Ysgol
    • Prosbectws
    • Mathemateg
    • Adroddiadau Blynyddol
  • Cwricwlwm Newydd
  • Rydych chi yma:  

  • Cartref »
  • Cwricwlwm Newydd

Cwricwlwm Newydd i Gymru


Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyson. 

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn yr argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn dilyn arolwg annibynnol o drefniadau’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru. 

Wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod: 

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; 
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith; 
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd; 
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.  


 
Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys: 

  • 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16 
  • 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol 
  • camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16 
  • deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant. 

 

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad: 

  • Celfyddydau mynegiannol 
  • Iechyd a lles 
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed) 
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed,) 
  • Mathemateg a rhifedd 
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg). 

 

Linciau:

Deall yr amserlenni: Diwygio Addysg a’r Cwricwlwm

Gwylio: Cwricwlwm Newydd i Gymru

Dyfodol Llwyddiannus

 

Ysgol Bro Brynach , Llanboidy, Hendygwyn,Sir Gaerfyrddin, SA34 0EL | Ffôn:01994 448 268 | admin.brynach@ysgolccc.org.uk