Cwrdd Diolchgarwch
Cynhaliwyd ein Cwrdd Diolchgarwch ar 19eg o Hydref yng Nghapel Trinity.
Disgyblion blwyddyn 6 arweiniodd y gwasanaeth gyda darlleniadau a gweddïau tra gwnaeth pob dosbarth rhoi diolch trwy gerdd a chân.
Roedd y casgliad eleni yn mynd tuag at Frwydr Morgan sydd yn codi arian i dalu am driniaeth i Morgan Hayes, bachgen 6 mlwydd oed o Hendy-gwyn sydd yn brwydro yn erbyn neuroblastoma cam bedwar.
Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau a wnaeth codi £345 at yr achos teilwng yma.
Diolch hefyd i'r Parch. Guto Llywelyn am annerch y plant ac i Mrs Merle Evans am chwarae'r organ i ni.
