Croeso i'r Cyfnod Sylfaen
Mae dosbarth y cyfnod Sylfaen yn cynnwys disgyblion o 3 i 7 blwydd oed.
Maent yn cael eu dysgu gan Miss Bryan gyda chefnogaeth tîm o gynorthwywyr dysgu cymwysiedig a phrofiadol iawn. Gan fod Miss Bryan ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd, mae'r dosbarth yn cael ei addysgu gan Miss Angharad Jones.
Mae’r cyfnod Sylfaen yn uned sydd wedi’u wneud o ardal Howell Powell, ardal Maesgwyn a’r ardal allanol sef Cwtsh y Cadno. Mae diwrnod y disgyblion yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau tasgiau ffocws ac amser pili pala. Yn ystod amser pili pala maent yn cael amser i archwilio ac arbrofi syniadau eu hunain a chwblhau heriau.
Mae’r gwersi, sydd yn digwydd ar draws yr uned, yn cael eu gwahaniaethu yn ôl gallu’r disgyblion ac nid blwyddyn ysgol sydd yn sicrhau lefel o her addas ar gyfer pob disgybl er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn potensial.
Thema’r tymor:
O Am Fyd Rhyfeddol!
Pethau i'w cofio:
-
Potel ddŵr, ffeil darllen a llyfr cyswllt pob dydd
-
Cot oherwydd mae gweithgareddau yn cael eu gwneud tu allan bob dydd er gwaethaf y tywydd
- Llun llanast: angen dillad ac esgidiau glaw
-
Ymarfer Corff: dydd Mercher