Gwybodaeth Gyffredinol
Ceisiadau am le mewn ysgol
Dylir gwneud cais i blentyn ddechrau ysgol mewn da bryd. Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddilyn y linc isod.
Cais ar-lein am le mewn ysgol
Amseroedd Ysgol
9.00yb - 3.15yp
1.00yp - 3.15yp (i blant meithrin rhan amser )
Gwyliau Ysgol 2020 - 2021
Cinio Ysgol
£2.55 y dydd / £12.75 yr wythnos
Bwydlen Gaeaf 2020
Os teimlir y dylai plentyn gael cinio rhad, gofynnir i rieni gysylltu a’r Pennaeth neu’r Swyddfa Addysg er mwyn cael y ffurflen gais neu ei lawrllwytho a'i argraffu o'r linc isod.
Cais Am Ginio Ysgol Am Ddim
Ffrwythau
Ceir ffrwythau yn ddyddiol am 20c y dydd / £1.00 yr wythnos. Os dymunir, gellir dod a ffrwyth i'r ysgol.
Casglir arian ffrwyth ar fore Llun. Gofynnir i rieni roi'r arian mewn amlen wedi ei labelu'n glir gyda enw eich plentyn.