Diogelu |
Safeguarding
Diogelu a Diogelwch yn yr Ysgol
Fel ysgol gynradd, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau diogelwch a lles pob disgybl, aelod o staff ac unrhyw unigolyn sy’n ymweld â’r ysgol. Rydym yn dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu cenedlaethol ac arweiniad y Cyngor Sir i sicrhau amgylchedd dysgu diogel, cefnogol a gofalgar.
Mynediad i’r Ysgol
Mae pob mynedfa i’r ysgol yn cael ei chloi yn ystod y diwrnod ysgol, ac mae mynediad i ymwelwyr yn cael ei reoli drwy system fynediad cod diogel. Mae ymwelwyr yn cael eu croesawu gan aelod o staff yn y dderbynfa ac yn cael eu hebrwng i’w cyrchfan gan aelod o’r staff. Cedwir cofnod manwl o bob ymwelydd yn y gofrestr ymwelwyr, yn unol ag arferion diogelu a gofynion iechyd a diogelwch.
Hyfforddiant Staff
Mae pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf. Yn ogystal, mae’r holl staff yn derbyn hyfforddiant diogelu rheolaidd, gan gynnwys adnabod arwyddion o gamdriniaeth, ymateb yn briodol i bryderon, a gweithredu’n unol â gweithdrefnau Diogelu Cymru a pholisiau’r ysgol.
Rheoli Damweiniau
Os bydd damwain neu anaf yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol, gwneir pob ymdrech i gysylltu gyda rhieni neu warcheidwaid er mwyn rhannu gwybodaeth gan gynnwys manylion unrhyw gamau a gymerwyd ac unrhyw gyngor pellach os bydd angen sylw meddygol.
Cedwir cofnod o’r digwyddiad mewn llyfr damweiniau swyddogol. Rydym hefyd yn dilyn pob gweithdrefn statudol ar gyfer cofnodi ac adrodd ar ddigwyddiadau yn unol â chanllawiau’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.
Diogelu Plant
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb moesol a statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles pob disgybl. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar lle mae pob plentyn yn cael ei barchu a’i werthfawrogi. Rydym yn effro i unrhyw arwyddion o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac yn gweithredu’n effeithiol yn unol â’n gweithdrefnau i sicrhau bod plant yn derbyn y gefnogaeth, yr amddiffyniad a’r cyfiawnder y maent yn ei haeddu.
Rydym yn gweithredu’n unol â’r ddogfen statudol Cadw Plant yn Ddiogel ac yn cydnabod ein cyfrifoldebau cyfreithiol i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn. Mae gan yr ysgol Bolisi Diogelu Cynhwysfawr sy’n cael ei adolygu ac adnewyddu’n flynyddol gan arweinyddiaeth yr ysgol a’r corff llywodraethu.
Mae gan yr ysgol Berson Dynodedig ar gyfer Diogelu sydd â’r prif gyfrifoldeb dros gydlynu ymatebion i bryderon diogelu. Yn ogystal, mae Is-Bersonau Dynodedig wedi’u penodi i gefnogi’r gwaith hwn a sicrhau bod cefnogaeth ar gael yn barhaus.
Mae aelod penodol o’r corff llywodraethu wedi’i benodi gyda chyfrifoldeb penodol dros fonitro gweithrediad ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu o fewn yr ysgol.
Mae pob achos neu bryder diogelu yn cael ei drin gyda’r uchafswm o gyfrinachedd a sensitifrwydd, ac yn unol â’r polisïau, deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol perthnasol.
Staff Dynodedig – Amddiffyn Plant
Yr Uwch Swyddog Dynodedig ar gyfer amddifyn plant yw Mr Mark Bowen.
Yn absenoldeb Mr Mark Bowen, cysylltwch a Miss Sian Bryan.
Os caiff honiad amddiffyn plant posibl ei wneud yn erbyn y Pennaeth, bydd yn rhaid i’r aelod o staff a gafodd yr honiad hwnnw gysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr Dr Adam Bowen.
Gwneud Atgyfeiriad Amddiffyn Plant
Mae holl atgyfeiriad amddiffyn plant yn mynd i’r
Tîm Atgyfeirio Canolog:
📞 01554 742322
Y Tu Allan i Oriau Gwaith:
📞 01558 824283
Os caiff honiad amddiffyn plant ei wneud yn erbyn aelod o staff, rhaid i’r person a gafodd yr honiad hwnnw drosglwyddo manylion y pryder i’r Pennaeth Mr Mark Bowen yn syth, neu, yn absenoldeb y Pennaeth i Miss Sian Bryan. Yna, bydd y Pennaeth/Miss Sian Bryan yn cysylltu â’r Tîm Atgyfeirio Canolog i drafod y camau nesaf, yn unol â’r trefniadau lleol.
Os caiff honiad amddiffyn plant posibl ei wneud yn erbyn y Pennaeth, bydd yn rhaid i’r aelod o staff a gafodd yr honiad hwnnw gysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr – MR DARYL THOMAS. Bydd Cadeirydd y Llywodraethwyr wedyn yn cysylltu â’r Tîm Cyfeirio Canolog i drafod y camau nesaf yn unol â threfniadau lleol.
Tîm Atgyfeirio Canolog:
📞 01554 742322
Y Prif Swyddog Addysg:
📞 01267 246450
Safeguarding and Safety in School
As a primary school, we are fully committed to ensuring the safety and wellbeing of every pupil, member of staff, and anyone who visits the school. We follow national safeguarding policies and procedures, as well as the guidance provided by the Local Authority, to maintain a safe, supportive, and caring learning environment.
Access to the School
All school entrances are kept locked during the school day, and visitor access is controlled through a secure code-entry system. Visitors are welcomed by a member of staff at reception and are escorted to their destination. A detailed record of all visitors is maintained in the visitor log, in accordance with safeguarding practices and health and safety requirements.
Staff Training
All staff members have received First Aid training. In addition, all staff receive regular safeguarding training, including how to recognise signs of abuse, respond appropriately to concerns, and act in line with Wales Safeguarding Procedures and the school’s policies.
Accident Management
If an accident or injury occurs during the school day, every effort is made to contact parents or guardians to share information, including details of any actions taken and any further advice if medical attention is required.
A record of the incident is kept in the official accident logbook. We also follow all statutory procedures for recording and reporting incidents in line with local authority and Welsh Government guidance.
Child Protection
We recognise our moral and statutory responsibility to safeguard and promote the wellbeing of every pupil. We strive to provide a safe and welcoming environment where all children are respected and valued. We remain alert to any signs of abuse or neglect and act effectively in line with our procedures to ensure that children receive the support, protection and justice they deserve.
We operate in accordance with the statutory guidance Keeping Learners Safe and fully acknowledge our legal duties to safeguard and protect all children. The school has a comprehensive Safeguarding Policy which is reviewed and updated annually by the school’s leadership team and governing body.
The school has a Designated Safeguarding Person (DSP) with overall responsibility for coordinating responses to safeguarding concerns. In addition, Deputy Designated Safeguarding Persons have been appointed to support this work and to ensure continuous safeguarding coverage.
A nominated member of the governing body has been given specific responsibility for monitoring the implementation and effectiveness of the school’s safeguarding arrangements.
All safeguarding matters and concerns are handled with the utmost confidentiality and sensitivity, and in accordance with school policies, legislation and relevant national guidance.
Child Protection – Designated Staff
The Senior Designated Safeguarding Officer for child protection is Mr Mark Bowen.
In the absence of Mr Mark Bowen, please contact Miss Sian Bryan.
If a potential child protection allegation is made against the Headteacher, the staff member who receives the allegation must contact the Chair of Governors – Dr Adam Bowen.
Making a Child Protection Referral
All child protection referrals must be made to the:
Central Referral Team
📞 01554 742322
📧 [email protected]
Out of Hours:
📞 01558 824283
If a child protection allegation is made against a member of staff, the person receiving the allegation must immediately report the concern to the Headteacher, Mr Mark Bowen, or, in his absence, to Miss Sian Bryan. The Headteacher or Miss Bryan will then contact the Central Referral Team to discuss next steps in accordance with local procedures.
If a potential child protection allegation is made against the Headteacher, the staff member receiving the allegation must contact the Chair of Governors – Mr Daryl Thomas. The Chair of Governors will then contact the Central Referral Team to discuss the next steps, in line with local safeguarding arrangements.
Central Referral Team
📞 01554 742322
📧 [email protected]
Chief Education Officer
📞 01267 246450