Dysgu Sylfaen

Croeso i’r Ddysgu Sylfaen

Mae’r Dysgu Sylfaen yn cynnwys disgyblion o 3 i 7 blwydd oed.  

Addysgir ein dosbarth meithrin a derbyn gan Miss Morris. Addysgir blynyddoedd 1 a 2 gan Miss Wilson. Cefnogir y ddwy athrawes gan dîm o gynorthwywyr addysgu cymwys a phrofiadol.

Mae’r Dysgu Sylfaen wedi’u wneud o dri ardal, dosbarth Lliwe, dosbarth Sien a’r ardal allanol sef Cwtsh y Cadno. Mae diwrnod y disgyblion yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, tasgiau ffocws ac amser Ditectif Dysgu. Yn ystod amser ditectif dysgu mae’r disgyblion yn cael amser i archwilio ac arbrofi syniadau eu hunain a chwblhau heriau. 

Mae’r gwersi yn cael eu gwahaniaethu yn ôl gallu’r disgyblion ac nid blwyddyn ysgol sydd yn sicrhau lefel o her addas ar gyfer pob disgybl er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn potensial.  

PETHAU I’W COFIO:

  • Potel ddŵr a ffeil darllen pob dydd
  • Cot oherwydd mae gweithgareddau yn cael eu gwneud tu allan bob dydd er gwaethaf y tywydd
  • Llun Llanast: angen dillad ac esgidiau glaw
  • Dydd Mercher: dillad ymarfer i blant flynyddoedd 1 a 2
  • Dydd Iau: dillad ymarfer i blant meithrin a derbyn