Rhieni

Gwybodaeth i Rhieni


Yma gallwch ddarganfod gwybodaeth ddefnyddiol am fywyd pob dydd yr ysgol yn ogystal â dyddiadau gwyliau, cinio ysgol a mynediad i ffurflenni gais ar-lein a dogfennau defnyddiol.

AMSEROEDD YSGOL

9.00yb – 3.15yp

12.45yp – 3.15yp (i blant meithrin rhan amser )

Disgwylir i bob plentyn gyrraedd yr ysgol yn brydlon a gofynnwn i chi gasglu eich plant yn brydlon hefyd ar ddiwedd y dydd.

Gofynnir i chi ffonio’r ysgol cyn naw o’r gloch y bore os fydd eich plentyn yn absennol.

CINIO YSGOL

£2.67 y dydd / £13.35 yr wythnos

FFRWYTHAU

Fel rhan o raglen Ysgol Iach, ceir ffrwythau yn ddyddiol am 30c y dydd / £1.50 yr wythnos neu os dymunir, gall y plant ddod a ffrwyth ei hun. 
Casglir arian cinio ar fore Llun. Gofynnir i rieni roi’r arian mewn amlen wedi ei labelu’n glir gyda enw eich plentyn.

PWYSIG: Gawn ni eich atgoffa nad oes hawl gan unrhyw un roi lluniau o weithgareddau yn ymwneud â’r ysgol ar unrhyw wefannau cymdeithasol. Diolch.