Urdd

Mudiad i blant a phobl ifanc Cymru yw’r Urdd. Fel aelodau o’r Urdd, mae’r disgyblion yn cael cyfle i gystadlu yn yr Eisteddfod flynyddol, nid yn unig ar y llwyfan ond bant o’r llwyfan hefyd drwy’r celf a chrefft. Hefyd, mae cyfle iddynt fynychu’r gwersyll yn Llangrannog neu yng Nghaerdydd ac i gymryd rhan yn chwaraeon ac yn y Jambori.